Graphical Version Home The Monarchy Today The Royal Family History of the Monarchy Art and Residences Insight Magazine



Rôl y Frenhines


Mae'r Frenhines yn cyflawni nifer o rolau pwysig.
  
Fel Pennaeth y Wladwriaeth, mae dyletswyddau cyfansoddiadol gan Y Frenhines. Y Frenhines sy'n agor Senedd y Deyrnas Unedig bob blwyddyn. Y hi hefyd sy'n cyfarch Senedd ddatganoledig Yr Alban a Chynulliad Cymru. Mae'r Frenhines yn darllen holl bapurau'r Cabinet, yn cymeradwyo Gorchmynion y Cyfrin-Gyngor, yn llofnodi Deddfau Seneddol, ac yn derbyn y Prif Weinidog a gweinidogion eraill y Llywodraeth ar gyfer cyfweliadau wythnosol.

Ar y cyfan, anffurfiol yw dylanwad Y Frenhines. Mae dyletswydd arni hi i roi ei barn i'r Prif Weinidog ar faterion y Llywodraeth, ond mae'r cyfarfodydd yma'n gyfrinachol. Ar ôl rhoi ei barn, mae'r Frenhines yn dal at gyngor ei gweinidogion.

Y Frenhines sy'n cynrychioli'r Deyrnas Unedig ar y llwyfan rhyngwladol. Mae'n derbyn Penaethiaid a Llysgenhadon Gwledydd sy'n ymweld â'r Deyrnas Unedig, ac mae'n teithio dramor. Gyda'r Dug Caeredin, mae'r Frenhines wedi gwneud dros 60 o ymweliadau swyddogol.
 
Fel Pennaeth y Gymanwlad, mae'r Frenhines yn gweithredu fel cyswllt rhwng gwledydd y byd sy'n perthyn i'r Gymanwlad. Mae'r Frenhines yn gwneud ymweliadau ar ran y Gymanwlad. Mae'n cysylltu'n rheolaidd ag Ysgrifennydd Cyffredinol y Gymanwlad a Phenaethiaid Llywodraethau. Mae'n mynd i ddathlu Gwyl y Gymanwlad yn Llundain, yn darlledu negeseuon blynyddol i ddathlu'r Nadolig a Gwyl y Gymanwlad, ac mae'n mynd yn aml i Gemau'r Gymanwlad.

Mae nifer o ddyletswyddau seremonïol gan Y Frenhines. Mae'n ymddangos ar nifer o achlysuron cyhoeddus fel:

  • gwasanaethau Urdd y Gardys ac Urdd yr Ysgallen
  • Achlysur Cyflwyno'r Faner
  • seremoni Dydd y Cofio
  • a gwasanaethau cenedlaethol yn Eglwys Gadeiriol St. Paul's ac Abaty Westminster.

Mae'r Frenhines yn cydnabod rhagoriaeth a chyflawniad gan aelodau'r gymdeithas. Mae Anrhydeddau am wasanaeth clodwiw'n cael eu cyhoeddi ddwywaith y flwyddyn. Fe allai unrhyw unigolyn gael ei anrhydeddu am wasanaeth cyhoeddus eithriadol neu rywbeth mae wedi'i gyflawni yn ei faes, o weithwyr elusennol i bencampwyr chwaraeon.

Fel arfer, mae seremonïau arwisgo'n cael eu cynnal ym Mhalas Buckingham, ond weithiau yng Nghastell Caerdydd. Mae'r Frenhines hefyd yn arwain derbyniadau, garddwesti a chiniawau i bobl sydd wedi cyfrannu at fywyd lleol, cenedlaethol neu ryngwladol.
 
Mae'r Frenhines yn rhan bwysig hefyd o'r broses o gefnogi gwasanaeth cymunedol, yn enwedig drwy'r Lluoedd Arfog a'r sectorau cyhoeddus a gwirfoddol. Y Frenhines yw Pennaeth y Lluoedd Arfog. Mae'n cadw'r cyswllt â'u gwaith a'u diddordebau nhw drwy ymweld â safleoedd milwrol yn rheolaidd. Mae cysylltiadau agos gan y Frenhines ac aelodau eraill y Teulu Brenhinol â dros 3,200 o elusennau.

Yn ogystal â'i rôl ffurfiol, mae'r Frenhines yn gweithredu fel canolbwynt undod cenedlaethol a'r synnwyr o bwy ydyn ni. Bob blwyddyn, mae'r Frenhines ac aelodau eraill y Teulu Brenhinol yn gwneud bron 3,000 o ymweliadau â llawer o rannau'r Deyrnas Unedig. Maen nhw'n gweld datblygiadau newydd a champau ym meysydd diwydiant, amaethyddiaeth, addysg, y celfyddydau, meddygaeth, chwaraeon a nifer o agweddau eraill ar fywyd.

Ar ôl cyflawni'r dyletswyddau yma am dros 50 mlynedd, mae'r Frenhines wedi cynnig dilyniant a sefydlogrwydd mewn oes o newid a datblygu cyflym. 


    YDYCH CHI WEDI GWELD...?

    Y Frenhines
    more >
     

    Tywysog Cymru
    more >

    CYSYLLTAU
    Tywysog Cymru
    Cynulliad Cenedlaethol Cymru


    Graphical Version News Media Centre How Do I? Freedom of Information Children Recruitment Cymraeg Gàidhlig
    Contact us Search Site map Links Subscribe Copyright About this site