Cymraeg > Croeso
Croeso
Cymraeg

Diolch am ymweld â gwefan swyddogol y Frenhiniaeth Brydeinig.

Ers deg canrif, fe fu'r Frenhiniaeth yn rhan ganolog o fywyd y Deyrnas Unedig. Fel Pennaeth y Wladwriaeth, mae'r Frenhines yn cyflawni nifer o ddyletswyddau cyfansoddiadol a seremonïol. Mae'r Frenhiniaeth hefyd yn:

- helpu i ddiffinio pwy ydyn ni fel cenedl
- cynnig sefydlogrwydd mewn cyfnodau o newid
- gwobrwyo rhagoriaeth a chyflawniadau
- hybu'r ddelfryd o wasanaethu cyhoeddus a gwirfoddol.

Mae'r wefan yma'n cynnig:

- gwybodaeth am waith Y Frenhines yn ein cymdeithas ni heddiw
- bywgraffiadau o rai o aelodau'r Teulu Brenhinol
- hanes brenhinoedd a breninesau'r oesoedd cynt
- gwybodaeth gefndirol am y cartrefi a'r casgliadau celf Brenhinol
- gwybodaeth am ddigwyddiadau ac ymrwymiadau diweddar y Teulu Brenhinol.

Mae'r tudalennau Cymraeg yma'n cynnig:

- bywgraffiadau byr o'r Frenhines a Thywysog Cymru
- trosolwg o rôl Y Frenhines
- gwybodaeth am y Frenhiniaeth yng Nghymru
- disgrifiad o Anrhydeddau Tywysogaeth Cymru.

Ein gobaith ni yw cynnig mwy o wybodaeth yn y Gymraeg yn y dyfodol. Byddwn ni'n falch o gael eich ymateb chi.

Bookmark and Share